Help us make sure every school in Wales teaches humanism

This year Wales made history when it became the first nation in the UK to explicitly include non-religious perspectives in the law relating to religious education. But the guidance to go along with it doesn’t name humanism. Will you tell the Welsh Government that it must?

The Welsh Government is now consulting on statutory guidance on Religion, Values, and Ethics, or RVE (the new name for religious education). The guidance deals with how RVE should be taught when the new curriculum is introduced next year. It says RVE must ‘reflect the fact that a range of non-religious philosophical convictions are held in Wales’. But it doesn’t name humanism specifically. This risks confusing teachers and other subject professionals. It could mean that, despite all the progress that has been made so far, humanism continues to be left out of the new curriculum in some local areas.

The consultation deadline is 16 July, so make your personalised response before that date.

Tips for responding to the consultation

If you are a parent or carer… talk about why you think it is important for your children to learn about religions and humanism equally. If your only local choice of school is a faith school, explain the issues this has caused for your family and why these schools must teach about humanism too.

If you are a teacher…talk about your positive experiences of inclusive RE that covers humanism. Or, if your school teaches from a particular religious perspective or doesn’t adequately consider non-religious worldviews, explain the problems you think this causes (both for the pupils and for you as a teacher).

If you are (or would like to be) a SACRE rep… talk about your positive experiences of learning about humanism in RE. If you haven’t been taught about humanism, explain why you think this is a problem (for example, by highlighting how this makes you feel as a non-religious person). If you have attended a faith school, discuss your experiences of being withdrawn from RE or having to stay in RE lessons that attempt to impose a religious perspective. If you are an older pupil who attends a faith school, explain why you would also like the right to opt yourself into inclusive lessons in Religion, Values, and Ethics.

Suggested responses to the consultation

We have included suggested responses to the multiple choice questions on the form which can be found here. Remember, you do not need to answer every question. We would suggest that, in addition to the multiple choice questions, you focus on Question 4 (which asks about gaps in information and what should be added to the guidance) and Question 10 (which allows you to address any issues that haven’t been raised in the rest of the consultation).

Hoffwn ymateb yn Gymraeg/ I want to respond in Welsh

CAMAU GWEITHREDU : Gwnewch yn siŵr bod pob ysgol yng Nghymru yn addysgu dyneiddiaeth

Eleni, fe wnaeth Cymru greu hanes wrth fod y genedl gyntaf yn y DU i gynnwys safbwyntiau anghrefyddol yn benodol yn y gyfraith sy’n ymwneud ag addysg grefyddol. Ond nid yw’r canllawiau i gyd-fynd â hi yn enwi dyneiddiaeth . A allwch chi ddweud wrth Lywodraeth Cymru fod yn rhaid iddi wneud hyn?

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ganllawiau statudol ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, (yr enw newydd ar gyfer addysg grefyddol). Mae’r canllawiau yn ymdrin â sut y dylai Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gael eu haddysgu pan gaiff y cwricwlwm newydd ei gyflwyno y flwyddyn nesaf. Mae’n dweud bod yn rhaid i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ‘adlewyrchu’r ffaith bod gan bobl yng Nghymru amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol’ . Ond nid yw’n enwi dyneiddiaeth yn benodol. Mae hyn yn peri risg o greu dryswch i athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â’r pwnc. Gallai olygu, er gwaethaf yr holl gynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn, bod dyneiddiaeth yn parhau i gael ei hepgor o’r cwricwlwm newydd mewn rhai ardaloedd lleol.

Ymateb i’r ymgynghoriad

Gallwch ddarllen y canllawiau newydd ac ymateb i’r ymgynghoriad drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein Llywodraeth Cymru.

I’ch helpu, rydym ni wedi darparu rhai awgrymiadau defnyddiol isod. Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen ein hymateb ni i’r ymgynghoriad i roi rhai syniadau i chi.

Os ydych chi’n athro/athrawes… soniwch am eich profiadau cadarnhaol o addysg grefyddol sy’n cynnwys dyneiddiaeth. Neu, os yw eich ysgol yn dysgu o safbwynt crefyddol penodol, neu os nad yw’n ystyried safbwyntiau byd-olwg nad ydynt yn grefyddol mewn modd digonol, eglurwch y problemau yr ydych chi’n credu bod hyn wedi eu hachosi (i’r disgyblion ac i chi fel athro/athrawes).

Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr… soniwch am y rheswm yr ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bwysig i’ch plant ddysgu am grefyddau a dyneiddiaeth mewn modd cyfartal. Os mai ysgol ffydd yw eich unig ddewis lleol o ysgol, eglurwch y problemau y mae hyn wedi’u hachosi i’ch teulu a pham mae’n rhaid i’r ysgolion hyn addysgu am ddynoliaeth hefyd.

Os ydych chi’n ddisgybl… soniwch am eich profiadau cadarnhaol o ddysgu am ddyneiddiaeth yn y dosbarth Addysg Grefyddol. Os nad ydych chi wedi cael eich dysgu am ddyneiddiaeth, esboniwch pam yr ydych chi’n meddwl bod hyn yn broblem (er enghraifft, drwy dynnu sylw at sut mae hyn yn gwneud i chi deimlo fel person anghrefyddol).

Os ydych (neu os hoffech chi fod) yn gynrychiolydd CYSAG… soniwch am y rheswm yr ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bwysig cynnwys dyneiddiaeth mewn addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Os ydych chi wedi helpu i ddatblygu maes llafur lleol mwy cynhwysol, disgrifiwch eich profiadau cadarnhaol. Os ydych chi wedi ei chael hi’n anodd cael eich penodi ar eich CYSAG lleol, neu i gael dyneiddiaeth wedi’i chynnwys yn eich maes llafur cytunedig lleol, esboniwch pam yr ydych chi’n meddwl bod hyn yn broblem a sut yr oedd y profiad yn gwneud i chi deimlo.

Y dyddiad cau ar gyfer ymgynghoriad yw 16 Gorffennaf, felly rydym ni angen i chi gyflwyno ymateb personol cyn y dyddiad hwnnw.

Rydym ni wedi awgrymu ymatebion i’r cwestiynau amlddewis ar y ffurflen isod. Cofiwch, nid oes rhaid i chi ateb pob cwestiwn. Byddem ni’n awgrymu, yn ogystal â’r cwestiynau amlddewis, eich bod chi’n canolbwyntio ar Gwestiwn 4 (sy’n gofyn am fylchau mewn gwybodaeth a’r hyn y dylid ei ychwanegu at y canllawiau) a Chwestiwn 10 (sy’n caniatáu i chi roi sylw i unrhyw faterion nad ydynt wedi eu codi yng ngweddill yr ymgynghoriad).

Ymatebion a awgrymir:

Cwestiwn 1 – Pa mor dda y mae’r canllawiau yn esbonio cwmpas addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a’i gyd-destun ym Maes y Dyniaethau yn briodol

Ddim yn dda o gwbl

Pwyntiau i’w cynnwys:

  • Mae’r diffiniad o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn ddryslyd ac nid yw’n defnyddio dyneiddiaeth fel enghraifft.
  • Yn hytrach, mae’n cymysgu argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol gydag argyhoeddiadau athronyddol nad oes ganddyn nhw ddim i’w wneud â chrefydd.
  • Er enghraifft, mae’r gred angerddol bod cosb gorfforol yn annerbyniol wedi’i chynnwys yn y canllawiau mewn ffordd a allai arwain athrawon i feddwl ei bod yn ‘argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol’. Fodd bynnag, nid yw’r argyhoeddiad hwn yn fwy anghrefyddol nag yw’n grefyddol: gellid bod o’r farn hon am resymau crefyddol neu anghrefyddol. Ac yn bwysicach na hynny, ni ddylai fod yn rhan o wersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg fel arfer.
  • Dylai hyn ac enghreifftiau eraill sy’n ddryslyd yn yr un modd, gael eu disodli a dylai’r canllawiau ei gwneud yn glir y dylai Addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gynnwys argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol ond sy’n cyfateb i grefyddau, fel dyneiddiaeth. Hynny yw, credoau sy’n ‘cyrraedd lefel benodol o argyhoeddiad, difrifoldeb, cydlyniant a phwysigrwydd’ ond sydd hefyd yn ffyrdd nad ydynt yn grefyddol o weld y byd .
  • Gallai methu â gwneud hyn olygu bod dyneiddiaeth, sef y prif fyd-olwg anghrefyddol yng Nghymru, barhau i gael ei hepgor o’r cwricwlwm.
  • Dylai’r canllawiau hefyd ei gwneud yn glir y dylai argyhoeddiadau athronyddol culach nad ydynt yn grefyddol, fel anffyddiaeth ac agnosticiaeth gael eu hastudio hefyd.
  • Mae llawer o grwpiau crefyddol wedi eu hepgor o’r diffiniad o grefydd, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn addoli ‘bod mawr’ a’r rhai sy’n credu mewn sawl duw;
  • Nid oes esboniad o’r hyn y mae’n ei olygu i addysgu’r pwnc yn unol â chyfraith hawliau dynol. Hynny yw, mewn ffordd sy’n ‘wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol’.

Cwestiwn 2 – A yw’r canllawiau, yn eu cyfanrwydd, yn eglur ac yn ddefnyddiol i chi yn eich swydd?

Aneglur iawn

Pwyntiau i’w cynnwys:

  • Cyfeiriwch at eich swydd/diddordeb eich hun mewn Addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (gweler yr awgrymiadau ar gyfer cynrychiolwyr rhieni, athrawon, disgyblion a CYS(AG) uchod).

Cwestiwn 3 – A yw’r canllawiau yn cynnig gwybodaeth berthnasol i gefnogi ymarferwyr wrth gynllunio eu cwricwlwm ysgol ar gyfer Addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg?

Perthnasol i ryw raddau

Pwyntiau i’w cynnwys:

  • Ailadroddwch y pwyntiau a wnaed mewn ymateb i Gwestiynau 1 a 3.

Cwestiwn 6 – A oes angen cymorth ychwanegol (e.e. adnoddau a dysgu proffesiynol) i sicrhau bod y canllawiau hyn yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus?

Oes

Pwyntiau i’w cynnwys:

  • Ni fydd llawer o athrawon wedi dysgu am ddyneiddiaeth o’r blaen, felly bydd angen hyfforddiant ychwanegol arnyn nhw i wneud hynny yn effeithiol.
  • Gan nad oes bellach hawl i dynnu plant allan o’r dosbarth, mae’n rhaid i athrawon ddeall y gyfraith yn llwyr ac addysgu mewn ffordd sy’n wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol. Bydd angen hyfforddiant arnynt i wneud hyn.

Cwestiwn 7 –

i) A yw’r canllawiau yn ddogfen ddefnyddiol ar gyfer cynadleddau datblygu maes llafur cytunedig?
Nid yw o unrhyw gymorth

Pwyntiau i’w cynnwys:

  • Nid yw’r adran o’r canllawiau sy’n ymdrin â chyfansoddiad y cyrff lleol sy’n goruchwylio ac yn datblygu maes llafur Addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (a elwir yn CYSAG a Chynhadledd y Maes Llafur Cytunedig) yn dweud bod yn rhaid iddynt benodi o leiaf un cynrychiolydd anghrefyddol. Felly mae’n bosibl y bydd dyneiddwyr yn dal i gael eu rhwystro rhag ymuno.
  • Mae awdurdodau lleol yn aml yn defnyddio data o’r Cyfrifiad i bennu nifer y bobl sydd â chrefydd neu gred benodol yn eu hardal. Mae ymchwil yn dangos bod natur ragfarnllyd y cwestiwn yn y Cyfrifiad – ‘Beth yw eich crefydd?’ yn hytrach na a oes gennych chi grefydd – yn amcangyfrif nifer y bobl anghrefyddol yn rhy isel o lawer. Ac, oherwydd nad yw ‘dyneiddiwr’ yn ddewis, nid yw’r Cyfrifiad yn gallu cofnodi faint o ddyneiddwyr sydd mewn unrhyw un ardal. Am y rheswm hwn, defnyddir data annibynadwy y Cyfrifiad yn rheolaidd fel rheswm dros wrthod aelodaeth ddyneiddiol o’r CYSAGau .
  • Oni bai bod y canllawiau yn cael eu newid i’w gwneud yn glir y dylai pob CYSAG a Chynhadledd y Maes Llafur Cytunedig benodi cynrychiolydd anghrefyddol, gallai’r driniaeth annheg hon barhau hyd yn oed ar ôl i’r cwricwlwm newydd ddod i rym.

ii) A yw’r canllawiau yn ddogfen ddefnyddiol ar gyfer CYSAG?
Nid yw o unrhyw gymorth

Pwyntiau i’w cynnwys:

  • Gweler yr ymateb i’r cwestiwn blaenorol.