More Non-religious in Wales than Christians in 2021 Census

29 November, 2022

Wales now has more non-religious people than any religion, including Christianity. It is among the least religious countries in the world, according to 2021 Census data, and significantly more non-religious than the rest of the UK.

The data published by the Office of National Statistics shows the number of people in Wales identifying with ‘No religion’ jumped from 32% to 47% between 2011 and 2021. The non-religious now outnumber each religion in the Census for the first time. This is in spite of the Census question on religion being widely recognised as a biased and leading one – in reality, England and Wales are even less religious, in terms of identity, belief, and practice than the Census results suggest.

Wales has always had a strong history of independent thought and the Church of England was disestablished over 100 years ago. The 2021 Census results now show that the significance of religion itself in Wales is diminishing year on year, with both the growth of the non-religious and the decline in Christianity occurring at a faster rate than between 2001 and 2011.

Biased Census

The result is still likely to underestimate the number of non-religious people. This is because the question is not only optional, but also uses leading wording (‘What is your religion?’) which has long been shown to inflate the number of people who do not believe in, practice, or consider themselves to belong to a religion choosing a religious box. They do so because they were christened, because their parents are/were Christian, or because they went to a Christian school. The Office of National Statistics acknowledges this itself. The annual British Social Attitudes Survey, by contrast, found in 2020 that 53% of British adults belong to no religion, with only 37% Christians.

Separately a poll commissioned by Humanists UK in 2019 showed that 29% of British adults hold a non-religious outlook on life that matches the humanist one, hinting at the widespread shift in popular values, opinions, and identity the UK has undergone in the 21st century.

Policy implications

While the Senedd was created as a secular institution, many areas of law are still governed by the UK Parliament, where 26 Church of England bishops are given seats ex officio.

And where law is devolved to Wales in areas of education and health, the non-religious still face everyday discrimination – in everything from getting daily Christian prayers in all schools, faith school admissions, and teacher employment, to receiving appropriate emotional support in hospitals. This Census result should be treated by Welsh Government as a call to action to stop such discrimination where it has the power, and call for the UK Government to follow its lead in representing all citizens’ beliefs equally.

Wales Humanists coordinator Kathy Riddick commented:

‘Wales is officially the least religious part of the UK, and while that’s not a new development, it is something that politicians in Wales are overdue to properly address in law and public policy. Thankfully in navigating these changes, Wales has a strong tradition of supporting freedom of religion or belief to draw on, from disestablishment over 100 years ago to the creation of the most inclusive curriculum in the UK just last year.

‘There are still many areas where being non-religious in Wales comes with disadvantages. From hospital chaplaincy, which fails to include any non-religious support across Wales, to school assemblies where daily acts of Chistian worship remain mandatory, and in many national events where religious groups are represented but non-religious beliefs are not.

Notes:

For further comment or information, media should contact Wales Humanists Coordinator Kathy Riddick at kathy@humanists.uk or phone 07881 625 378.

Read the latest Census results on the ONS website.

Wales Humanists is part of Humanists UK. Humanists UK is the national charity working on behalf of non-religious people. Powered by 100,000 members and supporters, we advance free thinking and promote humanism to create a tolerant society where rational thinking and kindness prevail. We provide ceremonies, pastoral care, education, and support services benefitting over a million people every year and our campaigns advance humanist thinking on ethical issues, human rights, and equal treatment for all.


Mae Cymru bellach yn meddu ar fwy o bobl digrefydd nag o rai crefyddol, yn cynnwys Cristnogaeth. Mae ymhlith y gwledydd mwyaf digrefydd yn y byd, yn ôl data Cyfrifiad 2021 ac yn sylweddol fwy digrefydd na gweddill y DU.

Dengys y data gyhoeddwyd gan y Swyddfa Stadegau Cenedlaethol bod y nifer o bobl yn cyfrif eu hunain yn ddigrefydd wedi cynyddu o 32% i 47% rhwng 2011 a 2021. Mae’r digrefydd bellach yn fwy nag unrhyw grefydd yn y Cyfrifiad am y tro cyntaf erioed. Mae hyn er gwaetha’r ffaith bod y cwestiwn yn y Cyfrifiad ar grefydd yn cael ei gydnabod fel un unochrog ac arweiniol – mewn gwirionedd, mae Lloegr a Chymru, o ran hunaniaeth, cred ac ymarfer, hyd yn oed yn llai crefyddol nag y mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn awgrymu.

Mae Cymru wedi meddu ar hanes hir a chryf o feddwl yn annibynnol ac fe ddatgysylltodd yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Lloegr dros ganrif yn ôl. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 erbyn hyn yn arddangos bod amlygrwydd crefydd yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn, gyda’r cynnydd yn y digrefydd a’r gostyngiad yng Nghristnogaeth yn gyflymach na rhwng 2001 a 2011.

Cyfrifiad unochrog

Mae’r canlyniadau yn parhau i dan-gyfrif y nifer o bobl ddigrefydd. Mae hyn oherwydd bod y cwestiwn nid yn unig yn ddewisol, ond hefyd yn defnyddio geiriad arweiniol (“Beth yw eich crefydd?”) sydd wedi hen ddangos y tueddiad i gynyddu’r nifer o bobl sydd yn dewis blwch crefyddol, er nad ydynt yn credu, ymarfer, neu gweld eu hunain yn perthyn i grefydd. Maent yn gwneud hyn oherwydd eu bod wedi eu bedyddio, oherwydd bod eu rhieni yn/wedi bod yn Gristnogion, neu oherwydd y buont yn mynychu ysgol Gristnogol. Mae’r Swyddfa Stadegau Cenedlaethol yn cydnabod hyn ei hunan. I’r gwrthwyneb, daeth arolwg blynyddol y British Social Attitudes i’r casgliad yn 2020 bod 53% o oedolion Prydeinig ddim yn perthyn i unrhyw grefydd, gydag ond 37% yn Gristnogion.

Ynghyd â hyn, dangosodd arolwg gan Humanists UK yn 2019 bod 29% o oedolion Prydeinig – bron hanner y digrefydd – yn arddel holl gredoau a gwerthoedd sylfaenol dyneiddiaeth i awgrymu bod symudiad sylweddol wedi digwydd yng ngwerthoedd poblogaidd, barn a hunaniaeth y DU yn ystod y 21ed Ganrif

Goblygiadau polisi

Tra bod y Senedd wedi ei greu yn sefydliad seciwlar, rheolir sawl agwedd ar gyfraith gwlad gan senedd San Steffan, ble mae 26 o esgobion Eglwys Lloegr yn eistedd yn ex officio.

A ble mae cyfraith gwlad wedi ei ddirprwyo i Gymru ym meysydd addysg ac iechyd, mae’r digrefydd yn parhau i wynebu gwahaniaethu – ym mhob agwedd o dderbyn gweddïo Cristnogol beunyddiol ym mhob ysgol, mynediad ysgolion ffydd ac apwyntio athrawon, hyd at dderbyn cynhaliaeth emosiynol addas mewn ysbytai. Dylai Llywodraeth Cymru drin canlyniad y Cyfrifiad fel galwad i atal y fath wahaniaethu ble mae’n meddu ar y gallu, a galw ar Lywodraeth y DU i ddilyn ei arweiniad yn cynrychioli credoau pob dinesydd yn gyfartal.

Dyma sylwadau Cydlynydd Dyneiddwyr Cymru, Kathy Riddick, ar beth mae’r canlyniadau yn golygu i wleidyddion yng Nghymru:

‘Yn swyddogol, Cymru yw’r wlad fwyaf ddigrefydd yn y DU, ac er nad yw  hynny yn ddatblygiad newydd, mae yn rhywbeth y mae’n hen bryd i wleidyddion yng Nghymru i’w wynebu go iawn o ran y gyfraith a pholisi cyhoeddus. Diolch i’r drefn, wrth ddelio gyda’r newidiadau hyn, mae gan Gymru draddodiad cryf o gefnogi rhyddid crefyddol neu gredo, o’r datgysylltu eglwysig dros ganrif yn ôl hyd at sefydlu’r cwricwlwm mwyaf cynhwysfawr yn y DU y llynedd. Mae `na lawer o feysydd yng Nghymru ble mae bod yn ddigrefydd yn parhau i fod yn anfantais. O gaplaniaeth ysbytai, sy’n methu cynnwys cymorth digrefydd ar draws Cymru, i gyfarfodydd ysgolion lle mae gweithred o addoli Cristnogol yn parhau yn orfodol, ac mewn llawer o ddigwyddiadau cenedlaethol lle gwelir cynrychiolaeth gan grwpiau crefyddol a dim cynrychiolaeth gan y digrefydd.’

Nodiadau

Am fwy o sylw neu wybodaeth, dylai gohebwyr gysylltu gyda Cydlynydd Dyneiddwyr Cymru Kathy Riddick ar  kathy@humanists.uk neu teleffon 07881 625 378.

Mae Dyneiddwyr Cymru yn rhan o Humanists UK. Humanists UK yw’r elusen cenedlaethol sy’n gweithredu ar ran bobl digrefydd. Gyda 100,000 o aelodau a chefnogwyr, rydym yn hyrwyddo rhyddid i feddwl a hybu dyneiddiaeth i greu cymdeithas goddefol lle mae meddwl rhesymegol a charedigrwydd yn goroesi. Rydym yn darparu defodau, gofal bugeiliol, addysg a chefnogaeth sy’n fuddiol i dros filiwn o bobl yn flynyddol ac mae’n ymgyrchoedd yn hybu meddwl yn ddyneiddiol am gwestiynau moesol, hawliau dynol a thriniaeth cyfartal i bawb.