Humanism to be taught in all Welsh schools from today

6 September, 2022

Wales Humanists today heralded a ‘new era of inclusivity’ as state-funded schools officially roll out a changed curriculum replacing Religious Education (RE) with Religion, Values, and Ethics (RVE), fully incorporating the teaching of non-religious worldviews such as humanism alongside those religions historically provided for.

The move – under the Curriculum and Assessment (Wales) Act – means humanism will now be taught on an equal footing with religions. It follows a long campaign by Wales Humanists to make sure that children receive a broad and balanced education in this area.

Wales Humanists Coordinator Kathy Riddick said:

‘Today is undoubtedly a landmark in the campaign to reform RE into a wider, more engaging subject that enables young people to contemplate fundamental philosophical questions, including those related to both religions and humanism.

‘By changing its law in this way, Wales has signalled a new era of inclusivity in its approach to the school curriculum.

‘While we naturally welcome and applaud this move, Humanists UK continues to campaign for the other governments of the UK to make a similar move. All pupils should have the right to an impartial, objective, fair, balanced school curriculum – and this means exploring an assortment of religions and humanism.’

The change to the law in Wales followed a 2017 court challenge against a local authority by Kathy, who had been denied membership to her local standing advisory council on RE (SACRE) – the bodies that set and oversee the RE syllabus in most schools.

She won the right to take a judicial review under the Human Rights Act. However, the Council then committed to reconsidering the decision, seeking the views of the Welsh Government first. The Welsh Government decided it agreed with Kathy, setting in train a sequence of events leading to humanists being admitted as members of SACs (as they are now known) across Wales; and the  full inclusion of humanism in the new curriculum rolled out today.

In 2018, Humanists UK welcomed the publication of the Commission on Religious Education’s (CoRE) landmark final report which recommended that the subject of Religious Education in England be renamed to Religion and Worldviews, and be reformed to ensure full inclusion of humanism.

Notwithstanding this, the UK Government’s position on reforms to RE in England has remained non-committal. A2015 revision of GCSE and A level Religious Studies subject content saw non-religious worldviews and humanism being largely excluded from study. This resulted in Humanists UK supporting three humanist families in successfully challenging this exclusion through the courts, leading to a High Court ruling which established that religions and non-religious worldviews had to be afforded equal respect in RE syllabuses. But the UK Government has taken no steps to implement this decision, or support the many English local authorities who do take an inclusive approach.

Humanists UK continues to urge the other governments of the UK to follow Wales’ lead, making  sure humanists are properly included and that humanism is taught about alongside religions.

Notes:

For further comment or information, media should contact Humanists UK Director of Public Affairs and Policy Richy Thompson at press@humanists.uk or phone 020 7324 3072 or 020 3675 0959.

Read more about our work on religious education.

Read our article about inclusive RE amendments to the Schools Bill.

Wales Humanists is part of Humanists UK. Humanists UK is the national charity working on behalf of non-religious people. Powered by 100,000 members and supporters, we advance free thinking and promote humanism to create a tolerant society where rational thinking and kindness prevail. We provide ceremonies, pastoral care, education, and support services benefitting over a million people every year and our campaigns advance humanist thinking on ethical issues, human rights, and equal treatment for all.

 


Heddiw, croesawodd Dyneiddwyr Cymru ‘gyfnod newydd o gynwysoldeb’ wrth i ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth gyflwyno cwricwlwm newydd gan ddisodli Addysg Grefyddol â Chrefydd, Gwerthoedd, a Moeseg, gan lwyr ymgorffori addysg ar fydolygon digrefydd, fel dyneiddiaeth, ochr yn ochr â’r crefyddau hynny a ddarperir ar eu cyfer yn hanesyddol.

Mae’r cam – o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) – yn golygu y bydd dyneiddiaeth yn cael ei dysgu ar yr un lefel â chrefyddau bellach. Mae’n dilyn ymgyrch hir gan Ddyneiddwyr Cymru i wneud yn siŵr bod plant yn cael addysg eang a chytbwys yn y maes hwn.

Dywedodd Cydlynydd Dyneiddwyr Cymru Kathy Riddick:

‘Heb os, mae heddiw’n garreg filltir yn yr ymgyrch i ddiwygio Addysg Grefyddol yn bwnc ehangach, mwy atyniadol sy’n galluogi pobl ifanc i ystyried cwestiynau athronyddol hanfodol, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â chrefydd a dyneiddiaeth.

‘Drwy newid ei chyfraith fel hyn, mae Cymru wedi dangos cyfnod newydd o gynwysoldeb yn ei dull o ymdrin â’r cwricwlwm ysgol.

‘Er ein bod yn croesawu ac yn cymeradwyo’r cam hwn, yn naturiol, mae Humanists UK yn parhau i ymgyrchu i lywodraethau eraill y DU gymryd cam tebyg. Dylai pob disgybl fod â’r hawl i gwricwlwm ysgol diduedd, gwrthrychol, teg, cytbwys – ac mae hyn yn golygu archwilio amrywiaeth o grefyddau a dyneiddiaeth.’

Daeth y newid i’r gyfraith yng Nghymru yn dilyn her yn y llys yn 2017 yn erbyn awdurdod lleol gan Kathy, a gafodd ei gwrthod i fod aelod o’i chyngor ymgynghorol sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) lleol – y cyrff sy’n gosod ac yn goruchwylio maes llafur Addysg Grefyddol yn y rhan fwyaf o ysgolion.

Enillodd yr hawl i adolygiad barnwrol o dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Fodd bynnag, ymrwymodd y Cyngor wedyn i ail-ystyried y penderfyniad, gan ofyn am farn Llywodraeth Cymru yn gyntaf.  Penderfynodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cytuno â Kathy, gan osod ar waith gyfres o gamau yn arwain at ddyneiddwyr yn cael eu derbyn yn aelodau o CYS (yr enw arnynt bellach) ledled Cymru; a chynnwys dyneiddiaeth yn llawn yn y cwricwlwm newydd a gafodd ei gyflwyno heddiw.

Yn 2018, croesawodd Humanists UK gyhoeddiad adroddiad terfynol nodedig y Comisiwn ar Addysg Grefyddol (CoRE) a oedd yn argymell y dylid ailenwi pwnc Addysg Grefyddol yn Lloegr i Grefydd a Bydolwg, a’i fod yn cael ei ddiwygio i sicrhau ei fod yn cynnwys dyneiddiaeth yn llawn.

Er gwaethaf hyn, mae safbwynt Llywodraeth y DU ar ddiwygiadau i Addysg Grefyddol yn Lloegr wedi parhau i fod heb ymrwymo. Mewn diwygiad o gynnwys pwnc Astudiaethau Crefyddol TGAU a Lefel A yn 2015, cafodd bydolygon digrefydd a dyneiddiaeth eu heithrio i raddau helaeth rhag cael eu hastudio. Arweiniodd hyn at Humanists UK yn cefnogi tri theulu o ddyneiddwyr wrth herio’r eithrio hwn yn llwyddiannus drwy’r llysoedd, gan arwain at ddyfarniad yn yr Uchel Lys a sefydlodd fod yn rhaid rhoi parch cyfartal i grefyddau a bydolygon digrefydd ym meysydd llafur Addysg Grefyddol. Ond nid yw Llywodraeth y DU wedi cymryd unrhyw gamau i weithredu’r penderfyniad hwn, na chefnogi’r awdurdodau lleol niferus yn Lloegr sydd yn cymryd agwedd gynhwysol.

Mae Humanists UK yn parhau i annog llywodraethau eraill y DU i ddilyn arweiniad Cymru, gan sicrhau bod dyneiddwyr yn cael eu cynnwys yn briodol a bod dyneiddiaeth yn cael ei dysgu ochr yn ochr â chrefyddau.

Nodiadau:

Am ragor o sylwadau neu wybodaeth, dylai’r cyfryngau gysylltu â Chyfarwyddwr Materion Cyhoeddus a Pholisi Humanists UK, Richy Thompson yn press@humanists.uk neu ffonio 020 7324 3072 neu 020 3675 0959.

Darllenwch fwy am ein gwaith ar addysg grefyddol.

Darllenwch ein herthygl am ddiwygiadau Addysg Grefyddol gynhwysol i’r Bil Ysgolion.

Mae Dyneiddwyr Cymru yn rhan o Humanists UK. Humanists UK yw’r elusen genedlaethol sy’n gweithio ar ran pobl ddigrefydd. Gyda 100,000 o aelodau a chefnogwyr, rydym yn hybu rhyddid meddwl ac yn hyrwyddo dyneiddiaeth i greu cymdeithas oddefgar lle mae meddwl yn rhesymegol a charedigrwydd yn deyrn. Rydym yn darparu seremonïau, gofal bugeiliol, addysg, a gwasanaethau cymorth sydd o fudd i dros filiwn o bobl bob blwyddyn, ac mae ein hymgyrchoedd yn hyrwyddo meddylfryd dyneiddiol ar faterion moesegol, hawliau dynol, a thrin pawb yn gyfartal.