Allow Wales to make its own marriage laws

People in Wales have been waiting for the UK Government to lay an order to legally recognise humanist marriages since 2013, but instead the Government has reviewed the matter again and again – for nearly a decade, which is far too long. 

In Scotland, humanist marriages have been legally recognised since 2005, and in Northern Ireland since 2018. The Welsh Government and other parties want to bring about immediate recognition of humanist marriages, but can’t.

We’re calling to hand over control of Wales’ marriage laws to Wales, so we aren’t tied to the slow pace of change in Westminster.

Hundreds of couples are, at present, unable to have the sort of wedding they want and have their marriage legally recognised without having to have a separate civil ceremony at their own expense and inconvenience.

The Welsh Government and other parties in Wales have made their support for humanist marriages clear but are shackled by the laws made in Westminster.

If the UK Government is not able to come to a resolution in the case of legally recognising humanist marriage, then that power must be devolved. 


Sign our petition and back our message: devolve marriage law to Wales

Humanists in Wales are calling for a change in marriage law and we ask for your help in making this change happen.

In October 2021, the Welsh Government confirmed its support for immediate legal recognition of humanist marriages, telling the UK Government that this issue should be resolved now, or else devolved to Wales.

Humanist marriages are already legally recognised in Scotland, Northern Ireland, and the Channel Islands. Unfortunately for Wales, marriage law remains a reserved matter even though the Welsh Government and Senedd have shown a clear will to follow other devolved nations in making these necessary and overdue changes.

Legal recognition in England and Wales has been under constant Government review since 2013. The Marriage Act gave the UK Government the power to enact legal recognition of humanist marriages without needing a new Act. But in the nine years since, the Government has not done this. Instead it has reviewed the matter three times, with the Government making no commitments to recognise humanist marriages or even to a timeframe for coming to a decision..

We are asking you to act in the interest of people in Wales who want the freedom to determine their own marriage law and move to devolve responsibility as it has been in all other jurisdictions.

Help us fight for devolved marriage law in Wales – sign this petition today.

Hoffwn ymateb yn Gymraeg/ I want to respond in Welsh

Caniatáu i Gymru wneud ei deddfau priodi ei hun

Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn aros i Lywodraeth y DU osod gorchymyn i gydnabod priodasau yn gyfreithiol ers 2013, ond yn hytrach mae’r Llywodraeth wedi adolygu’r mater dro ar ôl tro – ers bron i ddegawd, sy’n rhy hir o lawer. 

Yn yr Alban, mae priodasau dyneiddiol wedi eu cydnabod yn gyfreithiol ers 2005, ac yng Ngogledd Iwerddon ers 2018. Mae Llywodraeth Cymru a phartïon eraill yn dymuno sicrhau bod priodasau dyneiddiol yn cael eu cydnabod ar unwaith, ond ni allant wneud hynny.

Rydym yn galw am drosglwyddo rheolaeth dros gyfreithiau priodasau Cymru i Gymru, fel nad ydym wedi ein dal gan gyflymdra newid araf yn San Steffan.

Ar hyn o bryd, ni all cannoedd o gyplau gael y math o briodas y byddant yn ei ddymuno a chael eu priodas wedi’i chydnabod yn gyfreithiol heb orfod cael seremoni sifil ar wahân sy’n gostus ac yn anghyfleus iddynt.

Mae Llywodraeth Cymru a phartïon eraill yng Nghymru wedi datgan eu cefnogaeth i briodasau dyneiddiol yn glir ond maent wedi eu llesteirio gan y cyfreithiau a wneir yn San Steffan.

Os na all Llywodraeth y DU ddod i benderfyniad yn achos cydnabod priodas ddyneiddiol yn gyfreithiol, mae’n rhaid datganoli’r pŵer hwnnw.


Llofnodwch ein deiseb a chefnogwch ein neges: datganolwch gyfraith priodasau i Gymru

Mae dyneiddwyr yng Nghymru yn galw am newid cyfraith priodasau ac rydym yn gofyn am eich cymorth chi i wneud y newid hwn.

Ym mis Hydref 2021, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei chefnogaeth i gydnabyddiaeth gyfreithiol ar unwaith i briodasau dyneiddiol, gan ddweud wrth Lywodraeth y DU y dylid datrys y mater hwn yn awr, neu ei ddatganoli i Gymru.

Mae priodasau dyneiddiol eisoes wedi’u cydnabod yn gyfreithiol yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac Ynysoedd y Sianel. Yn anffodus i Gymru, mae cyfraith priodasau yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl er bod Llywodraeth Cymru a’r Senedd wedi dangos ewyllys clir i ddilyn gwledydd datganoledig eraill wrth wneud y newidiadau angenrheidiol a hir-ddisgwyliedig hyn.

Mae cydnabyddiaeth gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn cael ei hadolygu’n gyson gan y Llywodraeth ers 2013. Rhoddodd y Ddeddf Priodasau y pŵer i Lywodraeth y DU roi cydnabyddiaeth gyfreithiol i briodasau dyneiddiol heb fod angen Deddf newydd arnynt. Ond yn y naw mlynedd ers hynny, nid yw’r Llywodraeth wedi gwneud hyn. Yn hytrach, mae wedi adolygu’r mater dair gwaith, ac nid yw’r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ymrwymiadau i gydnabod priodasau dyneiddiol na hyd yn oed i amserlen ar gyfer dod i benderfyniad.

Rydym yn gofyn i chi weithredu er budd pobl yng Nghymru sy’n dymuno’r rhyddid i benderfynu ar eu cyfraith priodasau eu hunain a symud i ddatganoli cyfrifoldeb fel y bu ym mhob awdurdodaeth arall.

Helpwch ni i frwydro dros gyfraith priodasau ddatganoledig yng Nghymru – llofnodwch y ddeiseb hon heddiw.