Ymgyrchoedd

Fel rhan o Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain, mae gan Dyneiddwyr Cymru nifer o bolisïau ac ymgyrchoedd ar hawliau dynol a chydraddoldeb, materion moesegol cyhoeddus, a chyflawni gwladwriaeth seciwlar. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar bum maes ymgyrchu craidd:

Rhoi gwasanaethau cynhwysol ar y cyd yn lle addoliad crefyddol gorfodol

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wedi galw am roi diwedd ar addoli gorfodol ac eto mae addoli sy'n ‘fras yn Gristnogol’ ar y cyd yn dal i fod yn ofyniad ym mhob ysgol wladol.

Rydym am i'r gofyniad i addoli ar y cyd gael ei ddiddymu, a'i ddisodli gan ofyniad i wasanaethau cynhwysol, gan ddatblygu datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol pob disgybl, heb unrhyw wahaniaethu ar sail crefydd neu gredoau anghrefyddol. Gallwch ein helpu i wella'r sefyllfa drwy sicrhau bod gan ysgolion yn eich ardal chi wasanaethau cynhwysol.

Gweld Dyneiddiaeth yn cael statws cyfartal yng nghwricwlwm yr ysgol

Dyfodol Llwyddiannus yw rhaglen Llywodraeth Cymru o ddiwygio'r cwricwlwm. Pwrpas y cwricwlwm newydd yw cefnogi plant a phobl ifanc i fod yn:

  • uchelgeisiol, yn ddysgwyr galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.
  • gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
  • ddinasyddion egwyddorol, gwybodus o Gymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus, sy'n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

I gyflawni hyn, mae'n hanfodol y cynigir statws cyfartal ochr yn ochr â chredoau crefyddol i Ddyneiddiaeth. Rydym yn gweithio â grŵp rhanddeiliaid diwygio'r cwricwlwm ac ysgolion arloesol ledled Cymru, gan ddarparu adnoddau addysgu i helpu'r rhai sy'n dylunio cwricwlwm newydd.

Rydym yn cefnogi gwneud addysg rhyw a pherthnasoedd (ARhPh) yn rhan statudol o'r cwricwlwm, ac yn credu na ddylai cymeriad crefyddol ysgol amddifadu plant o'u hawl i ARhPh da. Credwn fod yr hawl hon yn bwysicach nag unrhyw ystyriaeth arall ac o ganlyniad y dylai unrhyw hawl i dynnu eu plentyn yn ôl o'r gwersi hyn ddod i ben.

Mynediad a chyllid cyfartal ar gyfer gofalwyr bugeiliol anghrefyddol ochr yn ochr â chaplaniaid neu'r rhai sy'n cynnig cymorth ysbrydol, ledled y GIG yng Nghymru

Mae Dyneiddwyr Cymru wedi hyfforddi nifer o ofalwyr bugeiliol anghrefyddol ledled Cymru sy'n barod ac yn fodlon gwirfoddoli mewn ysbytai a charchardai. Fodd bynnag, mae eu cynnwys mewn timau ‘caplaniaeth’ lleol yn ôl disgresiwn y caplan preswyl yr ysbyty.

Rydym hefyd yn ceisio hyrwyddo newid enw ystafelloedd gweddi mewn sefydliadau cyhoeddus, i ystafelloedd tawel, fel eu bod yn cynnwys pob cred. Rydym yn hyfforddi ac yn achredu gwirfoddolwyr cymorth bugeiliol dyneiddiol i weithio mewn ysbytai, carchardai, a'r lluoedd arfog. I ganfod mwy am y gwaith hwn, ewch i'r Rhwydwaith Gofal Bugeiliol Anghrefyddol.

Cydnabyddiaeth gyfreithiol i briodasau dyneiddiol

Mae priodasau dyneiddiol wedi bod yn gyfreithiol yn yr Alban ers dros 10 mlynedd ac erbyn hyn dyma'r math mwyaf poblogaidd o briodas ‘gred’ yn y wlad. Yn 2013, cynhwysodd y Ddeddf Priodas bwerau i roi cydnabyddiaeth gyfreithiol i briodasau dyneiddiol yng Nghymru a Lloegr. Ar hyn o bryd mae cynghorau lleol yng Nghymru yn cyflogi mwy o gofrestryddion i ymdopi â'r galw cynyddol am seremonïau anghrefyddol ac eto nid yw San Steffan wedi symud ymlaen gyda chydnabyddiaeth o briodasau Dyneiddiol yng Nghymru a Lloegr.

Ysgrifennwch at eich AS yn San Steffan ac AS yn y Senedd yn esbonio bod y cyfreithiau priodas presennol yn gwahaniaethu yn erbyn dyneiddwyr, ac yn gofyn iddo/iddi godi'r mater gyda Gweinidogion. Copïwch unrhyw ateb a gewch i Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain.

wefan y Seremonïau Dyneiddiol

Cyfreithloni marw â chymorth

Rydym wedi cefnogi ymdrechion ers tro i gyfreithloni marw â chymorth, cynorthwyo hunanladdiad ac ewthanasia gwirfoddol ar draws y DU, i'r rhai sydd wedi gwneud penderfyniad clir, yn rhydd o orfodaeth, i ddod â'u bywydau i ben ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny eu hunain yn gorfforol. Mewn llawer o achosion, bydd y person dan sylw yn derfynol wael. Fodd bynnag, ni chredwn fod achos moesol cryf dros gyfyngu cymorth i bobl sy'n derfynol wael yn unig ac rydym yn dymuno gweld diwygio'r gyfraith a fyddai'n ymateb i anghenion pobl eraill sy'n dioddef yn barhaol ac yn anwelladwy.

Gallwch ysgrifennu at eich AS a'ch AS a gofyn iddo/iddi gefnogi symudiadau i gyfreithloni marw â chymorth ar gyfer y rhai sy'n derfynol wael ac yn dioddef yn anwelladwy, neu anfon llythyr at olygydd papur newydd cenedlaethol neu leol. Mae gan ein Pecyn Cymorth Gweithredu gyngor ar sut i fynd ati i wneud hyn.