Am
Mae Dyneiddwyr Cymru yn rhan o Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain, elusen genedlaethol sydd wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (rhif 285987). Rydym yn gweithio ar ran y rhai anghrefyddol yng Nghymru i hyrwyddo Dyneiddiaeth, gwladwriaeth seciwlar, a thriniaeth gyfartal i bawb ni waeth beth fo'u crefydd neu'u cred.
Ymgyrchoedd
Fel rhan o Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain, mae gan Dyneiddwyr Cymru nifer o bolisïau ac ymgyrchoedd ar hawliau dynol a chydraddoldeb, materion moesegol cyhoeddus, a chyflawni gwladwriaeth seciwlar.
Gweinyddion
Mae gennym sawl dwsin o weinyddion yn gweithio ledled Cymru sy'n cynnal seremonïau priodas, angladd ac enwi babanod anghrefyddol. Mae seremonïau dyneiddiol yn bersonol i'r rhai sy'n cymryd rhan, ac mae ein gweinyddion yn gweithio'n agos â theuluoedd i sicrhau bod y seremoni'n digwydd lle, pryd a sut mae'n gweddu i'r rhai sy'n cymryd rhan.
"Fy ngobaith i yw, heb gyfeirio at dduwdod dychmygol, y gallwn ni yn y byd modern adeiladu cymdeithas decach na'r un sydd gennym ni nawr. Mae ein tynged yn ein dwylo ni ein hunain."
Yr Athro Steve Jones Biolegydd a dyneiddiwr Cymreig Welsh biologist and humanist
Cofrestru fel cefnogwr
Newyddion Diweddaraf
Rydym yn gweithio ar ran y rhai anghrefyddol yng Nghymru i hyrwyddo Dyneiddiaeth, gwladwriaeth seciwlar, a thriniaeth gyfartal i bawb ni waeth beth fo'u crefydd neu'u cred.
Cysylltu â ni
Mae Dyneiddwyr Cymru yn rhan o Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain, elusen genedlaethol sydd wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (rhif 285987).