Pa Mor Ddyneiddiol Ydych Chi?

Pa mor ddyneiddiol ydych chi? Ffeindiwch allan trwy gyflawni'r cwis cyflym hyn.

Mae nifer o bobl yn ddyneiddwyr heb sylweddoli. Os rydych yn anghrefyddol ac yn defnyddio gwyddoniaeth, rheswm, empathi a tosturiaeth er mwyn byw bywyd moesegol ac ystyrlon, ystyriwch ymuno â ni.

English / Cymraeg

  1. Daw'r ystyr yn fy mywyd o

    1. Fy nghysylltiadau ag eraill, fy mhrofiadau, a’r emosiynau rwy'n eu teimlo.
    2. Mynd ar drywydd fy amcanion, uchelgeisiau, hobïau a phrosiectau..
    3. Nunlle. Nid oes grym uwch ac nid oes ystyr i fywyd.
    4. Grym uwch, sydd â chynllun ar ein cyfer.
  2. Rwyf fwyaf tebygol o gredu bod rhywbeth yn wir os

    1. Byddaf yn gweld tystiolaeth sy'n ddilys yn fy marn i.
    2. Bydd pobl rwy'n ymddiried ynddynt yn dweud wrthyf eu bod wedi gweld tystiolaeth sy'n ddilys yn eu barn nhw.
    3. Caiff ei ddweud wrthyf gan awdurdod crefyddol.
    4. Caiff ei ysgrifennu mewn ysgrif sanctaidd.
    5. Mae gen i deimlad ei fod yn wir.
  3. A oes yna dduw?

    1. Nid wyf yn gweld tystiolaeth o unrhyw dduwiau na duwiesau, felly nid wyf yn credu eu bod yn bodoli.
    2. Nid wyf yn gweld tystiolaeth o unrhyw dduwiau na duwiesau, felly wn i ddim.
    3. Rwy'n credu bod yna dduw.
    4. Rwy'n credu bod yna nifer o dduwiau / duwiesau.
  4. Rwy'n meddwl bod y bydysawd...

    1. Yn lle naturiol y gellir ei ddeall orau drwy wyddoniaeth.
    2. Yn lle naturiol. Ond rwyf hefyd yn credu bod haen arall, goruwchnaturiol i realiti.
    3. Wedi cael ei greu fel rhan o gynllun dwyfol.
  5. Rwy'n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n gywir a’r hyn sy’n anghywir drwy...

    1. Meddwl drosof fy hun ynglŷn â beth fydd canlyniadau tebygol fy nghamau gweithredu a'u heffeithiau ar eraill.
    2. Dewis beth bynnag fydd yn gweithio allan orau i mi. Nid oes angen poeni am eraill.
    3. Cyfeirio at lyfr sanctaidd neu wrando ar arweinydd crefyddol.
  6. Pan ddaw i grefydd, rwy'n credu dylai llywodraethau

    1. Bod yn ddiduedd – ni ddylai llywodraethau ffafrio unrhyw berson na chamwahaniaethu yn ei erbyn oherwydd crefydd.
    2. Hyrwyddo anffyddiaeth – nid oes unrhyw grefydd yn gywir a dylai llywodraethau weithredu yn unol â hynny a dweud hynny wrth bobl.
    3. Adlewyrchu crefydd y mwyafrif yn y wlad - os yw'r mwyafrif yn dilyn un grefydd, dylai'r grefydd honno gael blaenoriaeth.
  7. Pan fyddaf yn edrych ar olygfa naturiol hardd, rwy'n meddwl…

    1. Dylem wneud popeth o fewn ein gallu i warchod hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
    2. Mae'n rhaid mai Duw sydd wedi'i chreu gan ei bod mor berffaith.
    3. Mae popeth am fywyd yma. Dwi’n teimlo’n dda.
  8. Pan fyddaf farw…

    1. Nid wyf yn gweld tystiolaeth y byddaf yn parhau mewn unrhyw ffordd, felly mae'n debyg mai fy marwolaeth fydd y diwedd i mi.
    2. Nid wyf yn gwybod beth fydd yn digwydd, felly nid oes gennyf farn.
    3. Byddaf yn cael fy aileni mewn corff newydd.
    4. Byddaf yn mynd ymlaen i fodoli'n dragwyddol mewn man arall.
  9. Mae pobl eraill yn cyfrif a dylid eu trin â pharch oherwydd…

    1. Byddwn i gyd yn hapusach os byddwn yn trin ein gilydd â pharch.
    2. Maent yn bobl â theimladau fel fi.
    3. Maent yn ddefnyddiol i mi.
    4. Cawsom i gyd ein creu gan Duw ar ei ddelw ei hun.
  10. Dylid trin anifeiliaid eraill…

    1. Gyda pharch oherwydd gallant ddioddef hefyd.
    2. Fel y mynnom. Nid oes ganddynt eneidiau a chawsant eu creu er mwyn i ni eu defnyddio.
    3. Gyda pharch oherwydd maent yn rhan o greadigaeth Duw.
    4. Yn garedig oherwydd y maent yn felys a fflwffog ac yn garedicach na phobl.