Dweud wrth Lywodraeth Cymru bod perygl y bydd yr addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg newydd yn parhau i eithrio dyneiddiaeth

16 July, 2021

Mae Dyneiddwyr Cymru wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru bod perygl y bydd y canllawiau newydd ar addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn parhau i eithrio dyneiddiaeth.

Cafodd Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gydsyniad brenhinol ym mis Ebrill. O dan y Ddeddf, mae’n rhaid i addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg – yr enw newydd ar gyfer addysg grefyddol – gynnwys addysgu am ‘argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol’. Mae’r Ddeddf hefyd yn dweud y caiff cynrychiolwyr anghrefyddol hefyd ymuno â chyrff yr awdurdodau lleol sy’n goruchwylio ac yn datblygu maes llafur Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Adnabyddir y rhain fel Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog a Chynadleddau Maes Llafur Cytûn.

Ond, mewn ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus, mae Dyneiddwyr Cymru wedi codi pryderon y bydd y diffiniad o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol a ddefnyddir yn y canllawiau yn achosi dryswch i athrawon. Nid yw’r canllawiau yn enwi dyneiddiaeth, er gwaethaf y ffaith mai dyma’r brif farn anghrefyddol yng Nghymru. Yn hytrach, mae’n cyfeirio at argyhoeddiadau nad ydynt yn grefyddol, ond y gellid eu coleddu am resymau crefyddol neu anghrefyddol. Yn rhyfedd, mae’r rhain yn cynnwys y farn nad yw cosb gorfforol yn dderbyniol. Mae Dyneiddwyr Cymru yn credu y gallai hyn arwain at barhau i eithrio dyneiddiaeth o blaid credoau na ddylid eu cynnwys fel arfer yn addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Mae’r canllawiau hefyd yn defnyddio diffiniad o grefydd sy’n canolbwyntio ar draddodiadau undduwiol ac yn eithrio crefyddau dharmaidd (fel Hindŵaeth a Bwdhaeth). A phrin yw’r canllawiau ar sut i gynllunio neu addysgu mewn ffordd ‘wrthrychol, feirniadol a phlwraliaethol’. Yn wahanol i Addysg Grefyddol, ni fydd hawl i dynnu’n ôl o addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Heb hyn, mae Dyneiddwyr Cymru yn pryderu y gallai athrawon fradychu rhyddid crefydd neu gred disgyblion a’u teuluoedd drwy ddarparu cwricwlwm unochrog.

Dywedodd Kathy Riddick, Cydgysylltydd Dyneiddwyr Cymru:

‘Dywedodd Llywodraeth Cymru mai un o’r prif resymau dros newid y gyfraith ar addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg oedd sicrhau ei bod yn cyd-fynd â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Er mwyn gwireddu hyn, mae’n rhaid sicrhau bod dyneiddiaeth yn cael ei gynnwys ar sail gyfartal â chrefyddau yn y cwricwlwm. Fodd bynnag, mae’r canllawiau hyn yn defnyddio diffiniadau dryslyd o argyhoeddiadau athronyddol nad ydynt yn grefyddol ac nid ydynt hyd yn oed yn sôn am ddyneiddiaeth fel enghraifft. Rydym yn pryderu’n fawr na fydd y canllawiau hyn yn helpu athrawon na’r cyrff sy’n gyfrifol am ddatblygu’r maes llafur. Yn waeth na hynny, gallai arwain at eithrio dyneiddiaeth a dyneiddwyr yn yr un modd ag yr oeddent yn cael eu heithrio cyn i’r Ddeddf gael ei chyflwyno. Yn y bôn, mae hyn yn tanseilio union ddiben y cwricwlwm newydd.

‘Rydym yn galw ar y Llywodraeth i ddiwygio’r canllawiau i’w gwneud yn amlwg bod yn rhaid addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn ffordd “wrthrychol, feirniadol a phlwraliaethol”. Ac er mwyn ei gwneud yn glir bod yn rhaid addysgu dyneiddiaeth ym mhob ysgol er mwyn cyrraedd y safon hon.’

Addysg perthnasoedd a rhywioldeb

Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad ar addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, mae’r Llywodraeth wedi bod yn cynnal ymgynghoriad ar y Cod a’r canllawiau newydd ar addysg perthnasoedd a rhywioldeb. O dan y cwricwlwm newydd, bydd addysg perthnasoedd a rhywioldeb priodol i oedran yn orfodol i bob disgybl 3-16 oed, heb hawl i rieni dynnu’n ôl. Mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, croesawodd Dyneiddwyr Cymru yn gryf y ffaith bod y canllawiau’n dweud bod yn rhaid addysgu addysg perthnasoedd a rhywioldeb mewn ‘ffordd niwtral, ffeithiol’. Dywedodd y dylai hyn helpu i atal y defnydd o adnoddau gwreig-gasaol, ffug-wyddonol ar sail ffydd. Mae’r rhain yn cynnwys A Fertile Heart, a gondemniwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU ond sy’n dal i gael ei addysgu mewn llawer o ysgolion ledled Cymru. Roedd ymateb Dyneiddwyr Cymru hefyd yn canmol cynnwys bywydau LHDTC+ yn benodol yn y Cod Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb. Mae hwn yn nodi’r cynnwys y mae’n rhaid i ysgolion ei ddarparu i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol i ddarparu Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb.

Fodd bynnag, nododd Dyneiddwyr Cymru fod angen i gynhwysiant LHDTC+ gael ei blethu’n llawnach i’r ddogfen. Ar hyn o bryd, ni sonnir am rywedd a rhywioldeb yn unrhyw un o’r datganiadau dysgu. Mae llawer o fylchau mewn cynnwys hefyd, gyda materion pwysig fel hawliau plant, mathau o gamdriniaeth, atal cenhedlu, ac erthyliad heb eu cynnwys. Dywedodd Dyneiddwyr Cymru fod yn rhaid mynd i’r afael â’r rhain er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn gallu cael Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb o ansawdd uchel.

Nodiadau:

I gael rhagor o sylwadau neu wybodaeth yng Nghymru, cysylltwch â Chydgysylltydd Dyneiddwyr Cymru Kathy Riddick yn kathy@humanists.uk neu ffoniwch 07881 625 378. Yn Lloegr, cysylltwch â Humanists UK Education Campaigns Manager Ruth Wareham yn ruth@humanists.uk neu ffoniwch 07725 110860